Menu

Yr Ail Ryfel Byd a thu hwnt

WWII and BeyondDefnyddiwyd y Fferm yn helaeth yn ystod y ddau Ryfel Byd fel sylfaen i gynhyrchu bwyd. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, cynhaliodd y safle dri o garcharorion rhyfel, dau o Awstria o'r enw Andrew a Karl ac un o Wlad Pwyl o'r enw Paul. Gwyddom fod Paul wedi meithrin cyswllt agos iawn â'r fferm ac arhosodd yma tan 1922 pan orfodwyd iddo ddychwelyd adref.

Parhaodd y Fferm i gynhyrchu seidr yn dilyn y Rhyfel a pharhau i fod yn hunangynhaliol yn bennaf. Heddiw, mae yna anghysondeb o ran safle'r felin seidr er y gallai fod wedi ei lleoli ym mhen draw'r Ysgubor Heb Do. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd Rupert Pilliner wedi ceisio cynhyrchu trydan i gyflenwi'r Tŷ trwy olwyn ddŵr ar ben pellaf yr Ysgubor. Yn anffodus, daeth diwedd ar ei ymdrechion pan gafodd ei ladd yn ystod y Rhyfel.

WWII and BeyondChwaraeodd y Faenor rhan bwysig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Cafodd y tir ei ffermio'n bennaf gan Fyddin Tir y Merched, a elwir fel arall yn 'Ferched y Tir'. Buont yn gweithio oriau anhygoel o hir ac yn gwneud gwaith llaw trwm i ddarparu bwyd i'r boblogaeth tra bod eu gwŷr, eu meibion a'u brodyr yn ymladd. Roedd eu tasgau yn cynnwys godro gwartheg, wyna, aredig, casglu cnydau, cloddio ffosydd a hyd yn oed ddal llygod.

Eto gyda dogni bwyd yn ei anterth, roedd ffermydd yn mwynhau mwy o fwyd - oedd yn cael ei dyfu a'i fagu. Mae yna straeon y byddai perchnogion Fferm ym Maenor Llanyrafon yn cuddio carcasau moch yn un o'r cypyrddau fel na fyddai'r bwyd yn cael ei ddatgan i'r llywodraeth, felly'n aros yn y Faenor i fwydo’r gweithiwr.

WWII and BeyondYn ystod y 1950au cydnabuwyd y Faenor fe adeilad rhestredig gradd II * a chafodd ei phrynu'n orfodol gan Gorfforaeth Datblygu Cwmbrân er i deulu Willis fyw yno tan ganol y 1970au. Fodd bynnag, ym 1978, cafodd yr adeilad ei ddatgan yn anniogel a defnyddiwyd estyllod i'w orchuddio a'i gau, felly ansicr iawn oedd ei ddyfodol a bu'n destun trafodaethau lu. Ym 1981, fe wnaeth Ymddiriedolaeth Amgueddfa Torfaen gaffael prydles y Faenor a daeth y Faenor yn amgueddfa fechan am gyfnod, ond ni welwyd llygedyn o obaith tan 2008, pan gafodd y brydles ei throsglwyddo i ddwylo Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.

Ar yr adeg hon, sefydlwyd Grŵp Cymuned Maenor Llanyrafon eu hunain gyda'r nod o greu dyfodol cynaliadwy i'r Faenor. Ymgasglodd y grŵp hwn am gyfarfodydd rheolaidd gyda Chynghorwyr, noddwyr ac unrhyw un a allai gynnig cyngor, gyda'r gobaith o gadw ac adfer yr ased hanesyddol hwn ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Yn y pen draw, aethant ati i gaffael arian gan y Cynllun Datblygu Gwledig, Cronfa Dreftadaeth y Loteri, CADW a Grŵp Gweithredol Cwmbrân a mynd ati o ddifri i ailwampio Maenor Llanyrafon.

Llanyrafon Manor