Menu

Ysgol Ysgub yn Ailgynnull!

Mae'n deimlad arswydus! Ar ôl llwyddiant ysgubol Ysgol Ysgub y llynedd, rydym wrth ein bodd i gadarnhau y bydd Ysgol Ysgub yn dychwelyd ar gyfer Calan Gaeaf ym Maenor Llanyrafon eleni.

Dechreuwch ar eich ymweliad â thaith i'r Ysgol Ysgub lle byddwch chi'n gwehyddu ac yn addurno'ch ysgubau gyda'r gwrachod preswyl. Yna i mewn â chi i'n tŷ iasol i glywed straeon Calan Gaeaf a mynychu’r Ysgol Llaca!

Bydd yr ysgub anferth yn dychwelyd ac yn parcio ar ein safle i roi cyfle i chi dynnu lluniau a chwarae pob math o driciau, ac (os bydd y tywydd yn caniatáu) bydd Rholio Pwmpenni yn ailgychwyn yn y ddôl.

Rydym hyd yn oed wedi ychwanegu dosbarth ychwanegol oherwydd y galw, felly bydd cyfle i ni ddangos ein llusernau Noson Galan Gaeaf wrth iddi ddechrau nosi.

Mwy o fanylion ar ein tudalen Facebook.

Wedi ei bostio ar 02/10/2017
Llanyrafon Manor