Polisi Cwcis
Trwy ddefnyddio gwefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen rydych yn cadarnhau eich bod yn hapus i dderbyn ein defnydd o gwcis. Yma fe allwch ddysgu mwy ynglŷn â sut i’w defnyddio.
Beth yw cwcis?
Ffeiliau bach, diniwed yw cwcis, sydd wedi eu gosod ar yriant caled eich cyfrifiadur neu yng ngof eich porwr pan fyddwch yn ymweld â gwefan.
Beth mae cwcis yn ei wneud?
Mae cwcis yn sicrhau bod y rhyngweithio rhwng defnyddwyr a gwefannau yn gyflymach a hawsach. Nid yw cwcis yn storio unrhyw wybodaeth bersonol neu gyfrinachol amdanoch.
Ydy cwcis yn ddiogel?
Ydyn, ffeiliau testun diniwed yw cwcis. Dydyn nhw ddim yn gallu edrych i mewn i’ch cyfrifiadur na darllen unrhyw wybodaeth bersonol neu ddeunydd arall ar eich gyriant caled. Ni all cwcis gario firysau na gosod unrhyw beth niweidiol ar eich cyfrifiadur.
Pam ddylwn i gadw’r cwcis ymlaen?
Argymhellwn eich bod yn cadw’r cwcis yn actif yn ystod eich ymweliadau i’n gwefan am fod rhannau o’r safle yn dibynnu arnynt i weithio’n iawn.
Y math o gwcis yr ydym yn eu defnyddio
Fel y mwyafrif o wefannau mawr, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn defnyddio cwcis sesiwn a chwcis parhaol. Nid yw cwcis sesiwn na chwcis parhaol yn casglu unrhyw wybodaeth sydd yn adnabod unigolyn yn bersonol.
Cwcis sesiwn
Rydym yn defnyddio cwcis sesiwn, sydd yn parhau am hyd eich ymweliad (eich 'sesiwn') ac maen nhw’n cael eu dileu pan fyddwch yn cau eich porwr. Yn syml, maen nhw yn ein helpu i weld bod yr un person yn symud o dudalen i dudalen.
Cwcis parhaol
Rydym hefyd yn defnyddio rhai cwcis parhaol, sydd yn golygu eu bod yn parhau y tu hwnt i’ch sesiwn. Mae cwcis parhaol yn helpu ein gwefan i’ch cofio fel defnyddiwr bob tro yr ydych yn defnyddio’r un cyfrifiadur i ail-ymweld â ni.
Cwcis a ddefnyddir ar hyn o bryd
Mae’r wefan yn defnyddio cwcis mewn sawl lle - rydym wedi rhestru pob un ohonynt isod ynghyd â mwy o fanylion yn egluro pam yr ydym yn eu defnyddio a pha mor hir y maen nhw’n parhau.
System Rheoli Cynnwys
System Rheoli Cynnwys
Enw | Cynnwys Nodweddiadol | Daw i ben |
CMSFontSizeCookie
|
Storio’ch dewis presennol o faint ffont
|
12 mis
|
csession
|
Rhif Adnabod y sesiwn a gynhyrchir ar hap
|
Pan fydd y defnyddiwr yn cau'r porwr
|
ASP.NET_SessionId
|
Rhif Adnabod y sesiwn a gynhyrchir ar hap
|
Pan fydd y defnyddiwr yn cau'r porwr
|
Google Analytics
Rydym yn defnyddio cwcis Google Analytics i gasglu gwybodaeth ynglŷn â’r ffordd y mae ymwelwyr yn defnyddio’r safle a phan fydd problemau’n dod i’r amlwg (fel dolenni’n torri).Mae Google analytics yn storio gwybodaeth am dudalennau yr ydych yn ymweld â hwy, pa mor hir y buoch ar y safle, sut yr aethoch yno a’r hyn yr ydych yn ei glicio arno. Nid ydym yn storio eich gwybodaeth bersonol felly ni ellir ei defnyddio i’ch adnabod. Nid ydym yn caniatáu i Google ddefnyddio na rhannu ein data.
Rydym yn defnyddio Google Analytics i sicrhau bod ein gwefan yn bodloni anghenion ein defnyddwyr a’n cynorthwyo ni i flaenoriaethu gwelliannau. Mae Google yn darparu mwy o fanylion ar dudalen Polisi preifatrwydd a Pholisi Cwcis Google . Mae Google hefyd yn darparu ychwanegyn i'r porwr sydd yn eich caniatáu i dynnu’n ôl o Google Analytics ar draws pob gwefan.
Google Analytics
Enw | Cynnwys Nodweddiadol | Daw i ben |
_utma
|
rhif a gynhyrchwyd ar hap
|
2 flynedd
|
_utmb
|
rhif a gynhyrchwyd ar hap
|
30 munud
|
_utmc
|
Rhif a gynhyrchwyd ar hap
|
Pan fyddwch yn cau’r porwr
|
_utmz
|
Rhifau a gynhyrchwyd ar hap a gwybodaeth ar sut y cyrhaeddwyd y safle (ee yn uniongyrchol drwy ddolen neu chwiliad organig neu dâl am chwilio)
|
6 mis
|
Troi cwcis i ffwrdd neu ymlaen
Mae gennych nifer o opsiynau o ran derbyn cwcis. Fe allwch osod eich porwr naill ai fel ei fod yn gwrthod cwcis o bob math, caniatáu safleoedd yr ydych yn eu ‘trystio’ i’w hanfon, neu dderbyn cwcis o wefannau y ydych yn eu defnyddio ar hyn o bryd yn unig.
Rydym yn argymell nad ydych yn blocio unrhyw gwcis oherwydd bod rhai rhannau o’n gwefan yn dibynnu arnynt er mwyn iddynt weithio’n iawn.
I ganfod sut i gychwyn cwcis a’u troi i ffwrdd yn eich porwr, dewiswch eich porwr isod:
I ddysgu mwy am gwcis a sut i’w rheoli, ewch i www.aboutcookies.org