Menu

Tuduriaid a Stiwartiaid

Tudors and StuartsMae yna dystiolaeth bod adeilad pren, canoloesol, â ffrâm nenfforch wedi bod ar y safle cyn yr adeiladwyd yr adeilad cerrig yr ydym yn ei weld heddiw. Gallai fod wedi storio bwyd ar gyfer Abaty Llantarnam gerllaw. Mae olion yr adeilad hwn i'w gweld o hyd y tu ôl i'r lifft ar lawr gwaelod y Faenor heddiw.

Fodd bynnag, wedi i'r mynachlogydd gael eu diddymu gan y Brenin Harri VIII, gwerthwyd y tir ac mae'r dystiolaeth gyntaf o'r perchennog yn dyddio i 1616 pan brynodd gŵr o'r enw Walter Griffiths y 'plasty mawr' â 1000 erw. Ar yr adeg hon, dim ond ochr chwith yr adeilad presennol oedd yn bodoli, felly'n ffurfio adeilad cerrig 'dwy 'stafell i fyny a dwy i lawr'. Er bod hyn yn ymddangos yn adeilad bach i ni heddiw, yn ystod cyfnod y Tuduriaid roedd y rhan fwyaf o bobl yn byw mewn tai pren ag un ystafell gyda hyd at 10 o bobl eraill. Roedd y fath 'blasty mawr' moethus tu hwnt, yn gwbl gyffelyb i gyfoeth Walter Griffiths.

Tudors and StuartsGweithiai Walter fel atwrnai, gan ennill cyfoeth ac enw da yn yr ardal ac mae hyn yn esbonio ei allu i brynu ac ymestyn Maenor Llanyrafon. Fel llawer o wŷr mawr eraill yng Nghymru, dilynodd Walter yrfa yn neuaddau brawdlys, a chaffael tir a rhenti yng Nghasnewydd ac yn ardal Cwmbrân.

Er bod y teulu yn amlwg iawn yn y gymdogaeth, yn gyfoethog ac yn meddu ar gyswllt da trwy briodas â theuluoedd amlwg, nid yw'n ymddangos eu bod wedi bod yn boblogaidd iawn. Mae sôn am Walter Griffith ‘gwr bonheddig, ei weddw Margaret a’u mab Charles yn arolwg Magna Porta 1634, yn dilyn marwolaeth Walter, am iddo godi dau gored ar Afon Lwyd a pheri diflastod ar dir yr Arglwydd, Fferm Gelly Lase drwy beri i’r dŵr orlifo”. Mae yna hefyd hanesion am Griffith yn cyhuddo Giles Morgan o godi band arfog i guddio'n barod amdano a dinistrio ei font dros Afon Lwyd.

Fodd bynnag, ni allai Walter fod wedi bod yn gwbl amhoblogaidd. Yn ei ewyllys, fe adawodd lawer o dir a'i ystâd i Charles a thirfeddianwyr lleol eraill gan gynnwys y teulu Morgan. Hefyd yn ei ewyllys, fe adawodd y swm hael o £10 i'w ddosbarthu ymhlith y tlodion yn Llanfrechfa.

Ychwanegwyd adran nesaf y Faenor tua chanol y 17eg ganrif ac mae hyn bellach yn ffurfio rhan fwyaf canolog y Tŷ. Yn ôl pob tebyg, fe'i hadeiladwyd rhwng 1590 a 1673 er mai cyfrannau'r ystafelloedd sy'n awgrymu mai yn ystod y blynyddoedd diweddarach yn y cyfnod hwn. Mae'r adran 'Dadeni' bellach yn cynnwys yr hyn sydd bellach yn Gyntedd, caffi, y Siambr Fawr a'r atig.

Yn dilyn marwolaeth Walter ym 1629, ymddengys bod teulu’r Griffiths wedi parhau i esgyn a thua 1670, ychwanegwyd Porth mawr ar flaen y Faenor.

Llanyrafon Manor