Menu

Cyfnod Victoria

Llanyrafon House 1901 Ym 1766, etifeddodd William Griffiths yr ystâd gan ei dad, Charles. William oedd yr aelod olaf o deulu Griffiths i fyw ym Maenor Llanyrafon er bod y teulu'n parhau i fod yn berchen arni tan 1886. Symudodd William i Gaerloyw lle bu'n gyfreithiwr, gan ddychwelyd i Lanyrafon yn achlysurol ar gyfer busnes, i gasglu rhenti ac i gymdeithasu â’i ffrindiau. Ar yr adeg hon, ychwanegwyd bwthyn deulawr, hunangynhwysol i'r Faenor, a hynny tua dechrau'r 19eg ganrif. Bwthyn yr Ystlumod yw'r rhan hon o'r adeilad bellach, ac er bod ystlumod yn byw yno drwy'r rhan helaeth o'r flwyddyn erbyn hyn, yn ystod cyfnod Victoria bu'n llety ar gyfer y gweision. Ychwanegwyd adrannau bach pellach, gan gynnwys penty a beudy.

VictoriansYm 1886, bu farw Florence Griffiths, yr olaf o linell Griffiths, yn Swydd Gaerloyw. Ym 1892, gwerthwyd yr ystâd, ei adeiladau a'r Felin, ynghyd â 235 erw o dir i Richard Laybourne am £3,000. Yna rhoddodd yr ystâd i'w ferch Edith a'i gŵr Alfred Massey Pilliner ar ddiwrnod eu priodas. Buont yn byw yn y Faenor am gyfnod byr cyn symud i Dŷ Llanyrafon, 500 llath yn unig i ffwrdd. Ar yr adeg hon, rhannodd Mr Pilliner y Faenor gyfan yn adrannau fel lletyau i'r i’r gweision.

Roedd llawer o anifeiliaid yn cael eu cadw ar y Fferm, yn cynnwys ieir, gwyddau, hwyaid, moch, gwartheg, defaid a cheffylau. Roedd ceffylau gwaith bob amser yn cael eu cadw mewn stablau ar y Fferm tra bod Mr Pilliner yn bridio ceffylau Arabaidd pedigri yn Nhŷ Llanyrafon. Y prif gnwd a dyfwyd oedd gwair tra bod berllannau afalau yn cyfrannu at gynhyrchu seidr.

Roedd gweithwyr y fferm bob amser yn disgwyl cael seidr yn ystod y tymor cynaeafu gwair, er na fyddai Mr Pilliner yn caniatáu i'w ferched ei yfed gan ei fod yn gwybod gormod amdano ac roedd wedi ei weld yn cael ei wneud. Byddai'r seidr yn cael ei gadw mewn cerwyni agored a phan oeddent yn cael eu draenio, byddai esgyrn llygod a llygod mawr anlwcus oedd wedi disgyn i mewn, yn dod i'r golwg.

Llanyrafon Manor