Ymweld â Ni
Mewn lleoliad tawel a hanesyddol, wedi'i chuddio o brysurdeb canol tref Cwmbrân gerllaw, mae Maenor Llanyrafon, sy’n cynnig lleoliad perffaith ar gyfer ystod o swyddogaethau preifat neu ddigwyddiadau corfforaethol. Gyda'i ffasâd amlwg ac amrywiaeth o ystafelloedd, mae'r Faenor yn lleoliad delfrydol i ddathlu digwyddiad teuluol neu i groesawu ymwelwyr cenedlaethol a thramor, gan gynnig blas o hanes a diwylliant Cymru.
Gellir llogi dwy ystafell yn y Faenor – y Neuadd Duduraidd a’r Siambr Fawr, y ddwy yn cynnig nifer o nodweddion o’r cyfnod.
I gael gwybod mwy dewiswch o blith y rhestr isod:
Datganiad Hygyrchedd
Rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau bod ein holl ymwelwyr yn cael diwrnod pleserus a chofiadwy.
Os oes rhwystr ffisegol yn bodoli, oherwydd oedran a natur yr adeilad, byddwn yn ymdrechu i gynorthwyo ymwelwyr sydd yn cael anawsterau i gael mynediad ledled yr adeilad.
Os oes gennych anableddau penodol ac yn teimlo y gall unrhyw gymorth ychwanegol helpu i sicrhau eich bod yn cael ymweliad pleserus, cysylltwch â ni ymlaen llaw.
Parcio
Mae yna fannau parcio pwrpasol yn y Maes Parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas.
- Cyfarfodydd
- Partïon
- Priodasau